Cywion Cranogwen yn y Clwb Iotio

Esboniodd Manon Awst eisoes beth oedd tu ôl i noson I’r Môr nos Sul 17eg o Fehefin.

Rhannom ambell gerdd o’r sioe newydd sydd ar y gweill gennym a gadael i donnau’r môr ein hysbrydoli. Canodd Beth Celyn a Siân Miriam gân a gyfansoddodd y ddwy gyda’i gilydd.

Cawsom fod yn rhan o line up wych oedd yn cynnwys Iestyn Tyne, Gwilym Bowen Rhys, Math Roberts a fideo ar y cyd gyda Marged Tudur a Gwenni Llwyd, yng Nghlwb Iotio, Caernarfon.

Heb os, y Clwb Iotio yw un o’r lleoliadau hynota’ i’r Cywion berfformio. Wedi’i leoli yn wal y castell, cawsom gyfle i ymlacio cyn y noson ar falconi’r clwb ac yna manteisio ar ddringo’r twr i’r top yn deg a chael gwylio’r machlud.

 

Sylwadau

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

w

Connecting to %s